Isaiah 59

Condemnio anghyfiawnder cymdeithasol

1Edrychwch, dydy'r Arglwydd ddim yn rhy wan i achub;
a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed!
2Mae eich drygioni chi
wedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw.
Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio'i wyneb
a gwrthod gwrando arnoch chi.
3Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan,
a phechod yn baeddu eich bysedd.
Mae eich gwefusau'n dweud celwydd
a'ch tafod yn sibrwd twyll.
4Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn,
a neb sy'n mynd i'r llys yn onest;
ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd.
Maen nhw'n achosi drygioni
ac yn esgor ar drafferthion.
5Maen nhw wedi deor wyau nadroedd,
ac yn nyddu gwe pry copyn.
Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r wyau hynny'n marw,
ac os ydy un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono.
6Dydy'r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad;
allan nhw ddim gwisgo'r hyn maen nhw'n ei nyddu.
Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn ddrwg,
ac maen nhw'n llawn trais.
7Maen nhw'n rhedeg at y drwg,
ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed.
Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg,
ac yn achosi llanast a dinistr.
8Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch,
a byth yn gwneud beth sy'n iawn.
Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog,
a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno.

Cyffesu pechod

9Felly dyna pam nad ydy'r sefyllfa wedi ei sortio,
ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau'n iawn.
Dŷn ni'n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch!
edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll.
10Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall;
yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld.
Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu;
dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.
11Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirth
neu'n cwyno a cŵan fel colomennod.
Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael;
am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.
12Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di,
mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni.
Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela,
a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:
13Gwrthryfela, gwadu'r Arglwydd
a throi cefn ar Dduw.
Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu,
a palu celwyddau!
14Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdd
a chyfiawnder yn cadw draw.
Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas,
a gonestrwydd yn methu dod i mewn.
15Mae gwirionedd wedi diflannu,
ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio.

Yr Arglwydd yn paratoi i achub ei bobl

Pan welodd yr Arglwydd fod dim cyfiawnder
roedd yn anhapus iawn.
16Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd,
roedd yn arswydo.
Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub,
a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen. a
17Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg,
ac achubiaeth yn helmed ar ei ben.
Rhoddodd ddillad dial amdano,
a gwisgo sêl fel mantell.
18Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu –
llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion;
bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd.
19Bydd pobl o'r gorllewin yn parchu enw'r Arglwydd,
a phobl o'r dwyrain yn gweld ei ysblander.
Bydd e'n dod fel afon sy'n llifo'n gryf,
ac ysbryd yr Arglwydd yn ei yrru yn ei flaen.
20“Bydd e'n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd,
ac at y rhai yn Jacob sy'n troi cefn ar eu gwrthryfel,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

21Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r Arglwydd: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi ei rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.”


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM